Gwrando a Dysgu ar ôl y Cyfnod Clo
Pecyn Hyfforddi Ar-lein Jenny Mosley ar gyfer y Cartref neu’r Ysgol
RHYBUDD
Trwy brynu’r adnodd hwn, rydych chi’n cytuno SUT a PHWY ALL ddefnyddio’r pecyn hwn.
Trwy brynu a/neu gyrchu’r dogfennau hyn rydych chi’n cytuno na fyddwch chi’n rhannu, dosbarthu, gwerthu na throsglwyddo mewn unrhyw fformat, yn electronig nac wedi’i argraffu, unrhyw ran o’r gwaith neu’r eiddo deallusol sy’n rhan o’r adnodd hwn gydag unrhyw un NAD YW YN EICH YSGOL NEU EICH TÎM. Dim ond ar gyfer un ysgol neu dîm rydych chi’n prynu a defnyddio’r cwrs hwn.
Sylwch: Bydd angen caledwedd a meddalwedd briodol arnoch sy’n caniatáu arddangos cyflwyniad Microsoft PowerPoint, ffeiliau fideo a PDF.
Cynnwys y Pecyn
-
Cyflwyniad PowerPoint “Cyfarfod Staff Ar-lein”
Gall yr holl staff wylio neu ddarllen y cyflwyniad PowerPoint yma o adref neu ei ddefnyddio yn yr ysgol er mwyn ffurfio syniadau’n ganolog wrth ystyried cyfarfod dyechwelyd dod yn nôl i’r Ysgol ar gyfer staff. Arweinir gan hwylusydd, er mwyn cefnogi trafodaeth gonest a chyfranogiad cadarnhaol. Mae’r cyflwyniad wedi’i rannu’n bum adran gan gynnwys fideos defnyddiol a chanllawiau lles. Yn anffodus, nid oedd modd i’r cyflwyniad yma fod ar gael yn y Gymraeg ond rydym wedi sicrhau fod y taflenni allweddol yn y Gymraeg.
-
“Cyfarfod Staff Therapiwtig i Ymuno ag Amser Cylch, er mwyn Cynyddu eu Hyder wrth ei Ddefnyddio gyda Phlant yn y Dosbarth”
Mae’n bwysig ein bod ni’n arwain wrth esiampl! Rydw i wedi llunio cyfarfod staff yn ofalus yn y Pum Cam fel y gall y staff weld y buddion Amser Cylch eu hunain. Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw rhywun brwdfrydig sy’n hapus i arwain y cyfarfod hwn ar ôl iddo ddarllen fy nghynllun sesiwn.
Rydw i bob amser yn annog yr arweinydd/athro i ddweud wrth y plant neu’r oedolion yn y cylch “Dydw i ddim yn arbenigwr, ond rydw i’n frwd!”
-
Chwe chynllun gwers therapiwtig CA2
Wedi’i gynllunio i helpu plant i addasu’n emosiynol, i adennill eu hunanhyder, i ennyn ymdeimlad o ‘dîm’ a’u cymhelliant i ddysgu.
-
Pedwar cynllun sesiwn therapiwtig Cyfnod Sylfaen a CA1
Wedi’i gynllunio fel y gellir ei deilwra i anghenion ac oedrannau unrhyw grŵp blynyddoedd cynnar.
-
DVD (neu ffeil ffilm) “Amser Cylch o Ansawdd”
Y DVD gwreiddiol sy’n dangos Jenny yn cynnal dosbarth meistr Amser Cylch gyda dosbarth CA1 a dosbarth CA2 nad yw wedi cwrdd â nhw o’r blaen.
Do, fe ddigwyddodd amser maith yn ôl! Fodd bynnag, mae’r holl egwyddorion a’r ffyrdd cadarnhaol o ryngweithio â phlant yn union yr un peth. Mae hefyd yn cynnwys llyfryn bychan o’r cynlluniau gwersi a ddefnyddir yn y DVD.
-
“Canllaw Cam wrth Gam i Amser Cylch” gan Jenny Mosley
Mae’r llawlyfr penigamp hwn i athrawon wedi’i gynllunio’n dda, gyda chamau clir a chynlluniau gwersi. Mae’r llyfr cyfan ar gael i’w lwytho i lawr ar ffurf PDF.
-
Taflenni Cwrs
Dyma rai taflenni allweddol sy’n ymdrin â’r materion allweddol a grybwyllir yn y pecyn:
- Datblygu Perthnasau Da
- Pwysigrwydd Ymlyniad ac Anogaeth
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Adnoddau Pellach
Adnoddau Pellach, Hyfforddiant Ar-lein ac Ymgynghori Ar-lein ar gael gyda Jenny Mosley
Gall Jenny Mosley ddarparu hyfforddiant yn eich ysgol gyda’ch holl staff neu grwpiau o staff ar Lles i Bawb, Amser Cylch Bywiog, Amserau Cinio Cadarnhaol a Perthynas Barchus (pan fydd yr amodau’n caniatáu hyn).
Rydym wrthi’n llunio pecynnau hyfforddi ar-lein ar y pynciau uchod i gyd.
Holwch am seminarau ar-lein a thrafodaethau byw ynglŷn â’ch ysgol a’ch lleoliad blynyddoedd cynnar gyda Jenny Mosley –
E-bostiwch circletime@jennymosley.co.uk neu ffonio 01225 767157
Mae adnoddau, llyfrau, posteri, pypedau a chardiau fflach i gyd ar gael yn ein siop ar-lein (E-bostiwch ni am daleb ar-lein ac am ostyngiadau ar gynhyrchion dethol a fydd yn ategu’r pecyn hyfforddi hwn) –
Ewch i www.circle-time.co.uk/shop neu ffonio 01225 719204
Cysylltwch
Jenny Mosley Consultancies
Ar gyfer hyfforddiant:
01225 767157
Ar gyfer adnoddau Positive Press:
01225 719204